Pam mae angen ynni gwynt ar y môr arnom

Newid hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r byd. Mae'n effeithio ar bob gwlad ac mae'n rhaid i ni i gyd chwarae rhan wrth helpu i'w frwydro.

Gall y prosiect hwn chwarae rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â thrawsnewid ynni drwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy i gefnogi targedau Llywodraeth Cymru a’r DU.

Mae’r DU yn arweinydd byd mewn gwynt ar y môr ac mae’r moroedd o’n cwmpas yn ddelfrydol ar gyfer manteisio ar bŵer gwynt. Bydd ein prosiect yn weithredol erbyn 2030 a bydd yn chwarae rhan mewn trawsnewid ynni drwy’r canlynol:

  • Cynhyrchu trydan carbon isel o fferm wynt ar y môr i gefnogi datgarboneiddio a diogelwch cyflenwad trydan Cymru a’r DU.
  • Manteisio i’r eithaf ar y capasiti cynhyrchu o fewn cyfyngiadau’r safleoedd a’r seilwaith grid sydd ar gael.
  • Cefnogi nod Llywodraeth Cymru i gynhyrchu ynni adnewyddadwy sy’n cyfateb i 70 y cant o ddefnydd Cymru erbyn 2030, fel y nodir yn y Cynllun Strategol Sero Net.
  • Darparu swm sylweddol o ynni gwynt ar y môr i gefnogi targed Sero Net Llywodraeth y DU erbyn 2050 a’r ymrwymiad i ddarparu hyd at 50 gigawat (GW) o ynni gwynt ar y môr erbyn 2030.
  • Cydfodoli a chydweithio â gweithgareddau, datblygwyr a gweithredwyr eraill er mwyn gallu cael cydbwysedd rhwng gwahanol ddefnyddwyr.

Bydd y prosiect hwn hefyd yn:

  • Cyfrannu at gyflawni nodau Strategaeth Diogelwch Ynni’r DU.
  • Cyfrannu at yr economi leol, ranbarthol a chenedlaethol drwy fuddsoddi’n sylweddol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyflogaeth a seilwaith newydd yn ystod pob cam o’r prosiect.
  • Parhau i gadw costau technoleg a datblygu i lawr er mwyn darparu ynni cost isel i ddefnyddwyr a darparu manteision cymunedol.
  • Cyd-fynd â’r prif ffactorau sy’n sbarduno diweddariadau i bolisïau cenedlaethol yng Nghymru a’r DU sy’n digwydd ar hyn o bryd ac sydd ar y gweill.

Mae’r DU eisoes yn cynhyrchu tua 13GW o’i phŵer o ynni gwynt ar y môr. Mae’n chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein cymysgedd ynni. Er enghraifft, am gyfnod ar 29 Ionawr 2022 roedd gwynt ar y môr yn darparu 66% o gyfanswm ein cynnyrch ynni.

Ond mae angen i ni wneud llawer iawn mwy. Er mwyn cyflawni nodau hinsawdd y DU, mae angen i ni gynyddu faint o ynni gwynt ar y môr rydym yn ei gynhyrchu bedair gwaith – sy’n golygu bod angen i ni osod a gweithredu capasiti hyd at 50GW erbyn 2030.