Newidiadau arfaethedig
Derbyniwyd y cais ar gyfer Prosiect Gwynt Alltraeth Mona gan yr Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, ddydd Iau 21 Mawrth 2024, a dechreuodd y Prosiect ar ei gam Archwilio.
Drwy gydol y cam Archwilio rydym wedi parhau i fireinio ein cynigion, ac mae hyn wedi arwain at yr angen am rai newidiadau bach a lleol mewn perthynas â mynediad priffyrdd.
Dyma’r newidiadau arfaethedig yn gryno:
- Diwygio Terfynau’r Gorchymyn arfaethedig i gynnwys llwybr mynediad presennol a darn o dir i’r gorllewin o’r is-orsaf ar y tir ar gyfer mynediad adeiladu dros dro yn ystod gwaith paratoi safle ar y tir, ac adeiladu’r is-orsaf ar y tir a’r gwaith o’i hamgylch;
- Diwygio a lledu ffordd fynediad ar gyfer gwaith adeiladu’r is-orsaf ar y tir i gynorthwyo symudiadau Llwythi Anwahanadwy Anghyffredin, gan gynnwys newid Terfynau’r Gorchymyn arfaethedig;
- Diwygio Terfynau’r Gorchymyn arfaethedig i gynnwys tir ychwanegol wrth ymyl ymagoriad mynediad adeiladu’r is-orsaf ar y tir i ddarparu ar gyfer basn arafu draenio’r safle adeiladu dros dro;
- Diwygio ac ehangu Terfynau’r Gorchymyn arfaethedig i gynnwys darn o dir sydd ei angen i ddarparu ar gyfer ardal o lawr caled yn ystod y cyfnod adeiladu er mwyn gallu sefydlu’r ffordd fynediad barhaol.
Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn ar gael yn y dogfennau [isod/dolen]
Adroddiad ar Gais am Newid Mona |
---|
Cais am Newid: Cynlluniau o’r lleoliad |
Cais am Newid: Cynllun Gwaith - Ar y Tir |
Cais am Newid: Cynlluniau Tir |
Cais am Newid: Cynllun gwaith stryd a mynediad i waith |
Cais am Newid: Llyfr Gorchwyl |
Cais am Newid: Datganiad cyllido |
Cais am Newid: Datganiad o Resymau |
Cais am Newid: Traciwr hawliau tir |
Cais am Newid – Gorchymyn Cydsyniad Datblygu |
Atodlen o Newidiadau i’r Cais am Newid: Gorchymyn Cydsyniad Datblygu drafft |
Cais am Newid: Cynllun Amlinellol ar gyfer Rheoli Traffig Adeiladu |
Cais am Newid: Atodlen o Ddogfennau'r Cais |
Sut mae ymateb
Rydym yn croesawu sylwadau ar y newidiadau arfaethedig hyn fel rhan o ymgynghoriad sy’n rhedeg tan 5pm ddydd Mawrth 03 Rhagfyr 2024. Gallwch gyflwyno adborth drwy ddefnyddio’r dulliau canlynol:
- E-bost: info@monaoffshorewind.com
- Post: rhadbost MONA
Mae’r ymgynghoriad hwn yn dod i ben am 5pm ddydd Mawrth 03 Rhagfyr 2024 felly gwnewch yn siŵr bod ymatebion yn cael eu cyflwyno ar y dyddiad hwn neu cyn hynny. Ac os ydych chi’n defnyddio’r opsiwn rhadbost, caniatewch amser i’ch ymateb gyrraedd.
Cliciwch yma er mwyn cael mynediad at ddogfennau yr ymgynghoriad yma.
Cliciwch yma