Ein cynigion

Bydd Prosiect Gwynt Alltraeth Mona yn cael ei leoli’n gyfangwbl o fewn dyfroedd Cymru yn nwyrain Môr Iwerddon, 28.8km o arfordir Cymru, 46.5km o arfordir gogledd-orllewin Lloegr, a 46.1km o Ynys Manaw.

Mae glanfa’r prosiect ger Llanddulas, Conwy ar arfordir Gogledd Cymru a bydd yn cysylltu ag is-orsaf bresennol y National Grid ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.

Bydd y fferm wynt yn cynnwys hyd at 107 o dyrbinau gwynt, a fydd yn cynhyrchu oddeutu 1.5GW o drydan.

Mae Prosiect Gwynt Alltraeth Mona yn falch o gyhoeddi ei ail gylchlythyr diweddaru Prosiect, sy’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Prosiect. Cliciwch ar y ddolen isod i ddarganfod mwy.

Y tu mewn iddo fe welwch wybodaeth am ein penderfyniad i leihau ardal ddatblygu safle’r fferm wynt er mwyn lliniaru effeithiau ar ddefnyddwyr morol eraill ymhellach, a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl parthed camau nesaf datblygiad y Prosiect

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cylchlythyr hwn neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect yn gyffredinol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Gweld y diweddariad

Is-orsaf ar y Tir

Mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael yn ystod ein tri cham o ymgynghoriadau â chymunedau a rhanddeiliaid wedi ein helpu i fireinio llawer o agweddau ar ein cynigion. Erbyn hyn, rydyn ni’n gweithio tuag at gyflwyno cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ar gyfer y prosiect yn 2024.

Ar ôl casglu’r holl adborth a gyflwynwyd i’r ymgynghoriad, mae tîm prosiect Mona wedi adolygu’r ymatebion amgylcheddol, cydsyniol, dichonoldeb peirianneg, y tir a chymunedol. Mae’r tîm hefyd wedi adolygu’r rhain yn erbyn y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn ein Hadroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol, a oedd yn destun ein hymgynghoriad diweddaraf, a oedd yn un statudol.

O ganlyniad i'n hymgynghoriad statudol, mae tîm Prosiect Gwynt Alltraeth Mona wedi gallu dewis un lleoliad ar gyfer is-orsaf ar y tir at ddibenion y cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu sydd ar ddod. Rydyn ni hefyd wedi dewis un llwybr ceblau ar y tir o’r opsiynau a gafodd eu cynnwys yn yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol. Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad anstatudol yn 2022 lle cyflwynwyd saith opsiwn is-orsaf ar y tir ar gyfer adborth. Roedd tîm y prosiect wedyn yn gallu llunio rhestr fer o ddau opsiwn yr ymgynghorwyd arnynt yn yr ymgynghoriad statudol.

Ar ôl ystyried yr ymgynghoriad hwnnw a’r adborth a gafwyd, rydyn ni wedi dewis opsiwn dau fel yr un y byddwn yn ei gynnwys o fewn ein cais am Gydsyniad Datblygu. Ni fydd opsiwn saith, a oedd i’r dwyrain o opsiwn dau, yn symud ymlaen ar ôl cael ei ddadethol.

Rydyn ni hefyd wedi dewis llwybr unigol ein cebl ar y tir. Byddwn ni’n siarad â thirfeddianwyr dros y misoedd nesaf, er mwyn i ni allu parhau i fireinio ein corridor cebl i un sydd tua 75m o led.

Mae’r map hwn yn dangos y newidiadau hyn.

Morcambe and Morgan cable route options
Cliciwch ar y llun i'w ehangu Pinsiad i chwyddo

Bydd rhagor o fanylion y tu ôl i ddewis yr is-orsaf ar y tir a’r llwybr ceblau a ffefrir yn cael eu rhoi yn yr adroddiad ar Ddewis Safle ac Ystyried Opsiynau Eraill. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r Datganiad Amgylcheddol a fydd yn cyd-fynd â’n cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu y flwyddyn nesaf.